Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

27 Mehefin 2022

SL(6)210 Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2022

Gweithdrefn: Gwneud Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i fyfyrwyr, sy’n cael benthyciad at gostau byw oddi wrth Weinidogion Cymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23 mewn perthynas â chwrs israddedig llawnamser, gael budd o ostyngiad yng ngweddill eu benthyciad o hyd at £1,500 pan eu bod yn dechrau ad-dalu eu benthyciad.  Ni fydd hyn ar ffurf cyfandaliad arian parod; yn hytrach bydd gweddill benthyciad unigolyn yn cael ei leihau gan y swm priodol y diwrnod ar ôl i ad-daliad cyntaf benthyciwr gael ei wneud. 

Dim ond unwaith y gall myfyriwr gael diddymiad rhannol; ni all gael diddymiad rhannol mewn perthynas â blwyddyn academaidd 2022/23 os yw eisoes wedi cael diddymiad mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd flaenorol.  Ni fydd gan fyfyriwr hawl i ddiddymiad rhannol os oes unrhyw daliadau neu gosbau heb eu talu neu os yw’n torri ei gytundeb benthyciad neu unrhyw reoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998

Fe’u gwnaed ar: 09 Mehefin 2022

Fe’u gosodwyd ar: 13 Mehefin 2022

Yn dod i rym ar: 01 Awst 2022